SL(6)217 – Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022

Cefndir a diben

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn sefydlu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru, “y Cwricwlwm i Gymru”.

Mae'r Rheoliadau hyn wedi cael eu gosod fel rhan o gyfres o reoliadau i gefnogi’r broses o weithredu’r Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022.

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth i roi effaith lawn i ddarpariaethau o dan Ddeddf 2021 a gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022. Dirymir sawl offeryn gan y Rheoliadau hyn, gydag eraill yn cael eu datgymhwyso'n raddol, cyn cael eu dirymu.

Gweithdrefnau

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae rhai anghysondebau a gwallau mewn cysylltiad â'r diffiniadau a gynhwysir yn rheoliad 2. Mae'r diffiniad o Ddeddf 2021 yn y testun Saesneg yn cynnwys diffiniad Cymraeg cyfatebol anghywir. Mae’n darllen fel "y Ddeddf". Yn lle hynny, dylai ddarllen fel "Deddf 2021".  Nid yw'r diffiniad o bennaeth yn cynnwys diffiniad Cymraeg cyfatebol (e.e. pennaeth) yn y testun Saesneg. Nid yw blwyddyn 2 a blwyddyn 11 wedi eu diffinio, er bod yr holl flynyddoedd ysgol arall o flwyddyn derbyn i flwyddyn 10 wedi eu diffinio. Nid yw'n glir pam nad yw'r diffiniadau hyn wedi eu cynnwys er cyflawnrwydd. Nodwn fod rheoliad 11(2)(c) yn cyfeirio at flynyddoedd 1 i 6 (a fyddai'n cynnwys blwyddyn 2). Diffiniwyd grwpiau blwyddyn o'r flwyddyn dderbyn hyd at flwyddyn 11, er enghraifft, yn rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Eithriadau Dros Dro ar gyfer Disgyblion a Phlant Unigol) (Cymru) 2022, sydd hefyd yn rhan o'r gyfres hon o reoliadau. Fel y cyfryw, mae'n ymddangos bod anghysondeb yn y dull gweithredu rhwng yr offerynnau hyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

28 Mehefin 2022